Mae Mark Drakeford wedi bwrw ei bleidlais yn yr etholiadau cyngor lleol.

Aeth y Prif Weinidog i mewn i Neuadd St Catherine, Pontcanna, Caerdydd, gyda’i wraig, Claire, am 9am fore Iau.

Mae Pontcanna o fewn etholaeth Mr Drakeford yng Ngorllewin Caerdydd.

Mynychodd arweinydd Llafur Cymru yr orsaf bleidleisio yn gwisgo siwt lwyd a thei coch a chyfarch pleidleiswyr gyda codiad llaw.

Mae pob gorsaf bleidleisio bellach wedi agor ar gyfer etholiadau lleol 2022, gyda seddi cyngor yng Nghymru, yr Alban, Llundain a sawl rhan o Loegr ar gael, a Gogledd Iwerddon yn ethol ei Chynulliad newydd.

Mae disgwyl i filiynau o bleidleiswyr fwrw pleidlais i ddewis y cynrychiolwyr lleol y maen nhw am redeg gwasanaethau yn eu hardal.

Yng Nghymru mae pob un o'r 22 cyngor hefyd yn cynnal etholiadau.

Bydd y polau yn cau am 10pm, a bydd cynghorau yn dechrau cyfri'r pleidleisiau ddydd Gwener, gyda disgwyl y canlyniadau o'r prynhawn ymlaen.